Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mehefin 2014
Adroddiad ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil Tai
(Cymru)
1. Ar 12 Tachwedd 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, 21 Mawrth 2014 fel dyddiad cau i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ystyried yr egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru) ac adrodd arnynt.
2. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 23 Mai 2014, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
3. Ar 20 Mai
2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes i newid y dyddiad cau ar gyfer
cwblhau trafodion Cyfnod 2 i 6 Mehefin 2014, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.8 er mwyn
caniatáu mwy o amser i ystyried y gwelliannau i
gyd.